Gweld dy gariad anorchfygol,
Gweld dy chwerw angau loes,
Gweld dy ofal maith diflino
Di amdanaf drwy fy oes,
Sydd yn dofi
Grym fy nwydau cryfa'u rhyw.
O! na welwn ddydd yn gwawrio -
Bore hyfryd tawel iawn,
Haul yn codi heb un cwmwl,
Felly'n machlud y prynhawn:
Un diwrnod
Golau eglur boed fy oes.
Heb euogrwydd dudew tywyll,
Na dim nwydau ffiaidd croes,
Nac un pleser sy'n cyfnewid
Goleu ddydd yn dywyll nôs;
Ti a minnau -
Dyna geisiaf tra fwyf byw.
Digon, digon fyddai hynny
Dim ond gweld dy ŵyneb-pryd,
A chael f'ysbryd llesg i ddringo
Fry ymhell uwch sŵn y byd,
I ardaloedd
Nad oes teimlo beth yw poen.
- - - - -
Gwel'd dy gariad anorchfygol,
Gwel'd dy chwerw angau loes;
Gwel'd dy ofal maith diflino,
Atai'n gyson ddydd a nos;
Sy'n darostwng,
Grym fy nwydau
llygredd yn fy oes.
O na welwn ddydd yn gwawrio,
Boreu hyfryd tawel iawn;
Haul yn codi heb un cwmmwl,
Felly'n machlyd y prydnawn;
Dy gymdeithas,
Rydd i mi hyfrydwch llawn.
Digon byth a fyddai hynny,
Dim ond gwel'd dy wyneb-pryd,
A chael f'ysbryd llesg i ddringo
Fry ymhell uwch sŵn y byd,
I ardaloedd
Nad oes teimlo beth yw poen.
William Williams 1717-91Ffarwel Weledig 1763
Tonau [878747]: gwelir: O gwasgerwch dew gymylau 'Rwy'n dy garu er nas gwelais |
Seeing thy insuperable love,
Seeing thy bitter throes of death,
Seeing thy vast, inexhaustible care,
For me throughout my age,
Is taming
The force of my strongest kind of lusts.
O that I would see day dawning -
A delightful very quiet morning,
Sun rising without any cloud,
Likewise setting in the evening:
One day
Of clear light be my age.
Without pitch-black dark guilt,
Nor any detestable contrary lusts,
Nor any pleasure which is changing
The light of day into dark night;
Thou and I -
That is what I see while ever I live.
Enough, enough that would be
Only to see thy countenance,
And for my feeble spirit to get to climb
Up far above the sound of the world,
To regions
Without any feeling of what pain is.
- - - - -
Seeing thy insuperable love,
Seeing thy bitter throes of death;
Seeing thy vast, inexhaustible care,
To me constantly day and night,
Is subduing
The force of my corrupt
lusts in my lifetime.
O that I could see day dawning,
A delightful very quiet morning;
Sun rising without any cloud,
Likewise setting in the evening;
Thy fellowship,
Shall give me full delight.
Enough forever would this be,
Only to see thy countenance,
And for my feeble spirit to get to climb
Up far above the sound of the world,
To regions
Without any feeling of what pain is.
tr. 2018 Richard B Gillion
|
|